Croeso

 

Arweinir y Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol gan anghenion cymunedau lleol yn wardiau mwyaf difreintiedig Castell-nedd Port Talbot. Ceir tîm o swyddogion ymroddedig sy'n helpu cydlynu a hwyluso prosiectau amgylcheddol corfforol ar raddfa fechan, gydag artistiaid yn gweithio gyda phobl leol o bob oed i'w hannog i gymryd rhan yn y prosiectau.

 

Tonmawr School Pond Digging Mae'r Tîm Gweithredu Amgylcheddol yn gweithio gyda chymunedau ledled ardal Castell-nedd Port Talbot i helpu troi ardaloedd diffaith, anial neu anniben yn ofod cymunedol gwerthfawr a defnyddiol. Mae'r tîm wrth law i gynorthwyo grwpiau lleol gyda chodi arian, cynllunio prosiectau, hyfforddiant a chwblhau'r gwaith. Mae penseiri tir ac artistiaid amgylcheddol wrth law i gynorthwyo trwy ychwanegu cyffyrddiadau creadigol i unrhyw brosiect.

Trwy weithredu'n bositif, mae gan gymunedau yn ardal Castell-nedd Port Talbot gyfle i lunio a newid eu hamgylchedd lleol diolch i gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Darllenwch ein dogfen werthuso ddiweddar trwy glicio yma.