Beth ydyn ni'n Wneud

Wasteland before regenerationSefydlwyd Groundwork Pen-y-Pont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, oedd gynt yn Ymddiriedolaeth Groundwork Ogwr, yn 1989. Rydym wedi datblygu portffolio pellgyrhaeddol o brosiectau sydd wedi cyfrannu i adfywiad rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig cymoedd De Cymru. Ers creu Groundwork yn yr ardal, rydym wedi  sefydlu ein hunain fel partner adfywio allweddol nid yn unig ym Mhen-y-Bont, ond ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ein sefydlu yno yn 2001

Wasteland after regeneration

Mae prif swyddfa’r ymddiriedolaeth wedi ei leoli ym Mharc Tondu yn Mhen-y-Bont, Gwaith Dur Fictoraidd a ailwampiwyd yn rhan o raglen Changing Places a ariannwyd gan Gomisiwn y Mileniwm. Mae’r safle 4.7 hectar gyferbyn i Lwybr Beicio'r Lôn Geltaidd sy’n mynd â chi o Gas-gwent i Barc Cenedlaethol Penfro. Gellir cyflawni taith o’r safle ar gais. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gyfrifol am Ganolfan Byw’n Iach Bettws a 3 Swyddog Prosiect YouthWorks (Wildmill, Caerau a Marlas) wedi eu lleoli yn ardal Pen-y-Bont. Mae’r Tîm Gweithredu Amgylcheddol yn cynnig cymorth i gymunedau ardal Castell-nedd Port Talbot ar ran yr Ymddiriedolaeth.

 

Mae gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol a hefyd y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol wedi galluogi Groundwork i feithrin enw da am ddatblygu a chyflawni prosiectau o ansawdd uchel. Prif feysydd gwaith yr Ymddiriedolaeth yw adfywio cymunedol, gwelliannau i amgylcheddau corfforol, cynllunio tirwedd, gwasanaethau busnes amgylcheddol, cyflogaeth, twristiaeth wyrdd ac ynni. O fewn y meysydd hyn mae’n egwyddor sylfaenol yn sefydlog, cyfuno gwelliannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy ac arloesol sydd o fudd i’r bobl, llefydd a busnesau yr ydym yn gweithio â nhw.

 O fewn yr ymddiriedolaeth, mae gennym ystod o arbenigedd yn cynnwys swyddogion cymunedol, gweithwyr ieuenctid, swyddogion addysg, artistiaid amgylcheddol, penseiri tirwedd, ymgynghorwyr busnes amgylcheddol, arbenigwyr ynni a chydlynwyr hyfforddiant a chyflogaeth. Trwy gyfuno sgiliau a phrofiad y gweithwyr hyn, gall yr Ymddiriedolaeth ddatblygu a gweithredu prosiectau arloesol a pherthnasol sy’n delio’n effeithiol ag anghenion y cymunedau yr ydym yn gweithio â nhw.